Visit to RGC

Tue, Nov 21st 2023 at 5:30 pm -

.


YMWELIAD Â RGC

Mwynhaodd aelodau'r clwb ymweliad diddorol ac addysgiadol iawn i Bencadlys Rygbi Gogledd Cymru ym Mae Colwyn ar nos Fawrth yr 21ain o Dachwedd. 

Cawsom ein cyflwyno yn gyntaf i Reolwr Cyffredinol RGC, Alun Pritchard a roddodd wybodaeth hynod o addysgiadol inni am ddechreuad y clwb yn ôl yn 2008, a sut mae wedi datblygu dros y blynyddoedd. Fe roddodd hefyd fanylion am gyfansoddiad yr Academi gan restru'r holl gategorïau o'r Adran Iau, Ieuenctid a Hŷn, Dynion a Merched a'r cysylltiad agos â Phrifysgol Bangor/Coleg Menai Llandrillo ac yr ysgolion lleol yn Rhanbarth y Gogledd. Yn dilyn y cyflwyniad cawsom daith dywys o amgylch y maes hyfforddiant ffitrwydd o fewn yr adeilad gan Rheolwr Perfformiad, Josh Leach, a roddodd wybod i ni am y gwahanol ddulliau hyfforddi modern a ddefnyddir. Yna cawsom eistedd i mewn ar gyfarfod dactegol i'r uwch dim cyn eu gêm yn erbyn Merthyr Tudful. I derfynu ein hymweliad ag RGC, buom yn gwylio'r uwch dîm yn mynd trwy fwy o hyfforddiant ar y cae 3G.

I gloi’r noson cafwyd pryd o fwyd a chymdeithasu difyr iawn yn Nhafarn y Llew Gwyn, Llanelian. Diolch Gwynn am drefnu noson hynod bleserus.


A VISIT TO RGC

Members of the club enjoyed a very interesting and informative visit to the HQ of Rugby Gogledd Cymru at Colwyn Bay on the evening of Tuesday the 21st of November. 

We were firstly introduced to the General Manager of RGC, Alun Pritchard who gave us a very informative presentation on the beginning of the club back in 2008 and how it has progressed over the years. He also gave details of the make up of the Academy listing all the categories from Juniors, Youth and Seniors, both Mens and Ladies and the close connection with Bangor University/Llandrillo Menai College and all the local schools in the North Region. Following the presentation we were given a guided tour of the fitness training area within the building by Performance Manager, Josh Leach, who enlightened us about the various modern training methods used. We were then allowed to sit in on a senior team tactical meeting prior to their forthcoming match against Merthyr Tydful. To end our visit to RGC, we watched the senior team going through more training on the 3G pitch. 

To end the evening a very enjoyable meal and fellowship was had at The White Lion Inn, Llanelian. Thank you Gwynn for organising a most enjoyable evening.


Gwynn ParryContact Gwynn Parry about this page:

(ALL fields required)

(If you are a Rotarian, please name your club.)

'What We Do' Main Pages:

What the club have donated, both locally and Internationally between 2019 and 2023

more  

Youth Service Activities

more